Y Grŵp Trawsbleidiol ar Fioamrywiaeth

Dydd Mercher 26 Tachwedd 2014, 12.15 - 13.30

Ystafell Gynadledda 24, Tŷ Hywel

 

Presennol

 

Llŷr Huws Gruffydd AC (LG)

Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol

Graham Rees (GR)

Llywodraeth Cymru, siaradwr

Dr Iwan Ball (IB)

Cyswllt Amgylchedd Cymru, siaradwr

 

 

Janet Finch-Saunders AC

Aelod Cynulliad

Russell George AC

Aelod Cynulliad

Alun Ffred Jones AC

Aelod Cynulliad

 

 

Scott Fryer

Cyswllt Amgylchedd Cymru / WTW

Clare Reed

Cyswllt Amgylchedd Cymru / MCS

Gareth Cunningham (GC)

Cyswllt Amgylchedd Cymru / RSPB

Raoul Bhambral

Cyswllt Amgylchedd Cymru

 

 

Nia Seaton

Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau

Katy Orford

Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau

 

 

Alex Philips

Ymchwilydd (William Powell AC)

Nick Wall

Ymchwilydd (Mick Antoniw AC)

Jim Evans (JE)

WFA

Lucy Taylor

Partneriaeth Aber Afon Hafren

Colin Davies

Calen Films

Dan Crook

CSP

Trevor Jones

Cynhyrchwyr Cregyn Gleision Bangor Cyf

 

 

 

1.    Croeso gan y Cadeirydd, Llŷr Gruffydd AC

Croesawodd LG yr aelodau i’r cyfarfod ac eglurodd y byddai’r cyfarfod yn canolbwyntio ar faterion morol.

Dechreuodd y cyfarfod gyda ffilm weledol fer o’r bywyd gwyllt rhyfeddol sy’n byw yn nyfroedd Cymru.

 

2.    Cyswllt Amgylchedd Cymru – cyflwyniad

Rhoddodd IB gyflwyniad byr i’r rhwydwaith a sut y mae’n gweithio.  

Rhwydwaith o sefydliadau anllywodraethol yr amgylchedd, cefn gwlad a threftadaeth Cymru yw Cyswllt Amgylchedd Cymru.  Mae gan y rhan fwyaf ohonynt gylch gwaith Cymru gyfan. Mae Cyswllt Amgylchedd Cymru wedi ei ddynodi’n swyddogol yn gorff cyfryngol rhwng y llywodraeth a sector sefydliadau anllywodraethol yr amgylchedd yng Nghymru. Ei weledigaeth yw cynyddu effeithiolrwydd y sector amgylcheddol o ran ei allu i ddiogelu a gwella’r amgylchedd drwy hwyluso’r sector a rhoi llais iddo. Mae Cyswllt Amgylchedd Cymru yn cynnwys 33 o aelodau sy’n cynrychioli 36,249 o wirfoddolwyr a 283,201 o aelodau a chefnogwyr.

 

Mae’r Gweithgor Morol yn cynnwys pum sefydliad sy’n aelodau ohono, y Gymdeithas Cadwraeth Forol, RSPB, WDC, Ymddiriedolaethau Natur Cymru a WWF. Gyda’i gilydd, maent yn rhedeg yr ymgyrch forol gan ganolbwyntio ar eiriolaeth, cyd-gynhyrchu ac ymwybyddiaeth y cyhoedd.

 

Mae moroedd Cymru yn cynnwys ardal o 15,000km2, gyda 60% o boblogaeth Cymru yn byw ac yn gweithio ar hyd yr arfordir. Amcangyfrifir bod y gweithgarwch economaidd sy’n gysylltiedig â moroedd Cymru tua £2.1 biliwn o’r Gwerth Ychwanegol Gros.

 

Mae’r ymgyrch forol yn canolbwyntio ar dri maes allweddol o bolisi morol, sef Ardaloedd Morol Gwarchodedig, Cynllunio Gofodol Morol a Chyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol.

 

Y materion allweddol i Gyswllt Amgylchedd Cymru mewn Ardaloedd Morol Gwarchodedig yw cwblhau rhwydwaith ecolegol gydlynol o safleoedd gwarchodedig  i gynnwys Parthau Cadwraeth Morol, sef rheoli safleoedd gwarchodedig yn effeithiol. Mae Cyswllt Amgylchedd Cymru yn cefnogi’r angen am well diogelwch ar gyfer rhywogaethau mudol a’r angen am fwy o ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad o fioamrywiaeth forol.

 

Mae Cyswllt Amgylchedd Cymru yn gofyn i Gynllunio Gofodol Morol ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar yr Ecosystem, yn ogystal â bod yn seiliedig ar dystiolaeth effeithiol. Hoffai Cyswllt Amgylchedd Cymru hefyd i Gynllunio Gofodol Morol gefnogi datblygu cynaliadwy, bod yn ragnodol ofodol ac i’r cynllun integreiddio’n llwyr gyda pholisïau eraill Llywodraeth Cymru.

 

Prif ffocws Cyswllt Amgylchedd Cymru ar gyfer Cyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol yw sicrhau bod dyfroedd Cymru’n cael Statws Amgylcheddol Da erbyn 2020 a bod rhaglen effeithiol o fesurau ar waith i gyflawni hyn.  Mae Cyswllt Amgylchedd Cymru hefyd yn galw am fwy o ymgysylltu â rhanddeiliaid, cydweithio rhanbarthol a’r angen i fynd i’r afael â bylchau mewn tystiolaeth a chryfhau’r drysorfa dystiolaeth.

 

Mae rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch forol ar gael yng ngwybodaeth am bolisi  morol Cyswllt Amgylchedd Cymru

 

3.    Rhaglenni’r Llywodraeth

Rhoddodd GR gyflwyniad a oedd yn amlinellu amrywiol raglenni’r Llywodraeth sydd ar droed a sut y maent i gyd yn dod ynghyd. Sicrhaodd y grŵp fod ymgysylltiad rhanddeiliaid yn rhan allweddol drwy gydol y broses hon.

Roedd y cyflwyniad yn canolbwyntio ar ddau brosiect cyfredol – cyflwyno Cyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol ac Ardaloedd Morol Gwarchodedig – a dechreuodd drwy ddangos sut y rhoddir y prosiectau hyn mewn cyd-destun â phrosiectau presennol eraill sy’n gysylltiedig â’r môr i ffurfio’r Rhaglen Trawsnewid Morol.

Diben Cyfarwyddeb Fframwaith Strategaeth Forol y Comisiwn Ewropeaidd yw cyfrannu tuag at gael Statws Amgylcheddol Da i’n moroedd erbyn 2020.  Cafodd y dull hwn ei gynllunio i fesur cyflwr ac effeithiolrwydd yr ecosystem forol.

Mae Statws Amgylcheddol Da yn golygu:

 

Mae’r Gyfarwyddeb yn ei gwneud yn ofynnol i aelod-wladwriaethau sefydlu mesurau a rhaglenni monitro ar draws un ar ddeg o wahanol ddisgrifyddion yr amgylchedd morol.  Ymgynghorwyd ar y rhaglenni monitro eisoes a chyflwynwyd adroddiad arnynt i’r Comisiwn Ewropeaidd ym mis Hydref 2014.  Mae’r Rhaglen o Fesurau yn cael ei chreu ar hyn o bryd ac ymgynghorir arni yn gynnar yn 2015.  Mae’r Rhaglen o Fesurau i gael ei sefydlu erbyn 2016.  Cynhelir adolygiad o statws y moroedd yn 2018.  Gofynnir i Aelod-wladwriaethau adolygu eu hagwedd tuag at Gyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol bob chwe blynedd.  

 

Mae nifer o fesurau eisoes ar waith – er enghraifft y rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig. 

 

Mae 128 o Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru ar hyn o bryd. Rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig sy’n cael ei reoli’n dda yw un o’r cyfraniadau i’r rhaglen o fesurau i helpu i gael Statws Amgylcheddol Da erbyn 2020.

 

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi estyniadau i dair Ardal Warchodedig Arbennig ar gyfer adar. Yn ychwanegol at hynny, mae Llywodraeth Cymru yn adolygu’r ffordd y caiff yr Ardaloedd Morol Gwarchodedig eu rheoli ac maent yn edrych ar gyngor cadwraeth rheoliad 35 ar gyfer pob ardal sy’n cael ei diogelu o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd er mwyn ceisio darparu mwy o eglurder ar gyfer defnyddwyr y môr.  Mae Llywodraeth Cymru yn cyfrannu tuag at asesiad o rwydwaith ardaloedd morol gwarchodedig ar lefel y DU ac mae’n ystyried Ardaloedd Gwarchodedig Arbennig ychwanegol ar y môr.

 

 

Argymhellodd GR yr aelodau hefyd i edrych ar ddau glip ar YouTube sydd hefyd yn dangos Animeiddiadau Llywodraeth Cymru ar Gynllunio Morol  ac Ardaloedd Morol Gwarchodedig 

www.Cymru.gov.uk/marine

www.Cymru.gov.uk/fisheries

 

4.    Cymorth Busnes

 

Wedyn, edrychodd y grŵp ar glip fideo byr arall, a oedd yn cynnwys cyfweliadau gydag amrywiaeth o ddiwydiannau pysgota, hamdden a busnes – y cyfan yn tynnu sylw at yr angen am foroedd iach a chynhyrchiol. Dyma’r rhai a gyfwelwyd:

 

Alison Hargrave, Swyddog Cadwraeth Ardaloedd Arbennig

Yr Athro Michael Kaiser, Ysgol Gwyddorau Morol, Prifysgol Bangor

James Wilson, Ffermwr Cregyn Gleision, Deepdock Cyf.

Gareth Reynolds, Rheolwr Cyffredinol, Dale Sailing

David Jones, Rheolwr Prosiect, Ynni’r Môr Sir Benfro

 

http://youtu.be/R8JS9AqzTAY

 

 

5.    Trafodaeth

Nododd LG y cyfyngiadau cyllidebol ac mai portffolio Cyfoeth Naturiol oedd yn cael ei daro waethaf gan y gyllideb ddiweddar a gofynnodd am oblygiadau hyn ar y môr. Dywedodd GR ei bod yn bwysig edrych ar y blaenoriaethau a gweithio’n agosach gyda rhanddeiliaid.

Gofynnodd JE a oedd amserlen ffurfiol ar gyfer y cynlluniau cydgynhyrchu a chydreoli. Dywedodd GR eu bod yn casglu gwybodaeth ac y byddant wedyn yn edrych ar y blaenoriaethau i gyflawni hyn. Nododd JE fod y swyddogaethau o ddydd i ddydd yn her ynddynt eu hunain, o ystyried yr adnoddau sydd ar gael a’r gwaith sydd angen ei wneud. 

Nododd LG y cyfnod deddfwriaethol prysur yr ydym ynddo, gyda Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Bil Cynllunio ar droed, a Bil yr Amgylchedd yn dod y flwyddyn nesaf. Sicrhaodd GR ni fod y Llywodraeth yn datblygu naratif i egluro i bobl sut mae’r Biliau hyn yn dod ynghyd. 

Awgrymodd GC amrywiol ffynonellau ariannu sydd ar gael – Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Nododd GR y bydd gweithio gydag Aelod-wladwriaethau eraill ledled Ewrop hefyd yn sicrhau cyfleoedd. Bydd angen inni fod yn glir o ran cyfleu’r hyn sydd angen ei wneud. Nid yw’n argyhoeddedig bod y sylfaen dystiolaeth yn ddigon da, gan ddefnyddio sbwriel y môr fel enghraifft. 

Tynnodd GC sylw at y ffaith bod addysg yn ffactor allweddol ar gyfer materion fel sbwriel y môr. Adleisiodd CR bwynt IB yn gynharach bod y dangosyddion a’r dystiolaeth sydd gennym yn ddigon da i waith ddechrau nawr a gellir gwneud gwelliannau o ran monitro yn ddiweddarach.  

Rhoddodd GR wybod inni mai’r broblem allweddol fel y’i gwelir ar lawr gwlad, yw’r camddealltwriaeth yn ymwneud â hpMCZs sy’n ei gwneud yn anodd i bobl werthfawrogi elfennau eraill gwaith morol. Mae’r negeseuon a’r modd y cânt eu cyfleu yn bwysig iawn felly.

Diolchodd IB i bawb a daeth â’r cyfarfod i ben.